Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Tachwedd 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4657
------
Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F.
Enwebwyd Mick Antoniw gan Mike Hedges. Eiliodd Jane Hutt a Jenny Rathbone yr enwebiad.
Gan nad oedd ond un enwebiad, ac na chafwyd gwrthwynebiad i’r enwebiad, datganodd y Llywydd fod Mick Antoniw wedi ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 6-8 ac 11-12. Tynnwyd cwestiynau 3, 4, 5 a 9 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3, 4 a 6–8. Tynnwyd cwestiynau 2 a 5 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllwein Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau a gymerir i ddiogelu anifeiliaid gwyllt yn sw y Borth, ger Aberystwyth, yn sgil marwolaeth dau o'i gathod gwyllt?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a oedd yn ymwybodol o honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014, o ystyried ei ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ym mis Tachwedd 2014 a oedd yn nodi na chafodd unrhyw honiadau eu gwneud?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus)
Jane Hutt (Bro Morgannwg): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y rhybudd gan Aston Martin ddoe y gallai ei fuddsoddiad yn Sain Tathan fod mewn perygl os na fydd cytundeb ar Brexit?
Dechreuodd yr eitem am 15.25
Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad yn talu teyrnged i’r newyddiadurwr ymchwiliol o Gymru, Gareth Jones (1905–1935).
Dechreuodd yr eitem am 15.26
NDM6569 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Julie James (Llafur) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Jane Hutt (Llafur).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.27
NDM6564 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018-19, fel y pennir yn Nhabl 1 o “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2018-19”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2017 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6528
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei ymarfer yn eang ledled y byd a bod tua 2,000 o fenywod a merched yng Nghymru yn byw gyda chanlyniadau anffurfio organau cenhedlu benywod.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio pob cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn;
b) annog ysgolion i drafod hyn fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol a hyfforddi staff;
c) codi ymwybyddiaeth o'r arfer hwn ymysg meddygon teulu a phob ymarferydd meddygol; a
d) gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn derbyn cymorth a chefnogaeth i fynd i'r afael â'r broblem.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
0 |
39 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.20
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM6556 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Camfanteisio ar fewnfudwyr i'r DU gan gangiau troseddol o fewnfudwyr.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.42
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2017